Ein Gwaith yng Nghymru

Mae diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn ei gwneud yn unigryw ac y mae'n bwysig ymdrin â hi yn iawn. Mae hyn yn golygu bod angen ymateb sy'n addas ar gyfer Cymru - a dyna y mae ein staff yn ei ddarparu.

Mae'r dystiolaeth o ansawdd uchel bob amser yn wrthrychol ac wedi ei ddarparu'n ddi-duedd, ac y mae yn arwain llunwyr penderfyniadau Llywodraeth Cymru, a rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch cadwraeth a rheolaeth-tir. Er mwyn cefnogi hyn, yr ydym yn cysylltu â nifer fawr o wirfoddolwyr arolygon adar ymroddedig, ac yn ceisio eu datblygu, a'u cefnogi bob amser. Mae yna adegau pan fydd galw am ddull gwahanol o weithredu ac y mae rhwydwaith helaeth o wirfoddolwyr y BTO yn cael ei ategu gan wyddonwyr, gweithwyr maes proffesiynol a chydweithwyr ymchwil a phartneriaid eraill.

Mae Cymru yn lle gwych i adar a phobl fel ei gilydd. Mae yna adegau pan fydd angen gwneud penderfyniadau anodd a allai effeithio ar ein hecosystemau cain. Mae ein gwyddoniaeth, sydd bob amser yn annibynnol a di-duedd, felly yn holl-bwysig, ac yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gael yr wybodaeth gywir. Canolbwyntiwn ar gynefinoedd, rhywogaethau a pholisïau Cymreig ac yr ydym yn darparu hynny o fewn fframwaith ymchwil y BTO ledled y DU.



Related content