Croeso i BTO Cymru

Llyn Ogwen, Eryri, gan Neil Mark-Thomas

Croeso i BTO Cymru

Sefydlwyd BTO Cymru er mwyn cael llais Cymreig ac agwedd Gymreig ar faterion sy'n bwysig i adar Cymru. 

Mae ein staff yng Nghymru yn cydweithio'n agos gyda phartneriaid a phobl.

Mae'r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Cymdeithas Adaryddol Cymro a chlybiau adarydda – ac yn bwysicach na neb, gyda'n aelodau a'n gwirfoddolwyr.

Yr ydym angen mwy o archwilwyr gwirfoddol yng Nghymru er mwyn gwella ein trefn fonitro a phrosiectau ar draws y wlad.

Mae gwybodaeth arbenigol staff BTO Cymru am gefn gwlad a diwylliant Cymru yn golygu y gallant roi adborth i bencadlys y BTO er mwyn sicrhau fod arolygon monitro cenedlaethol ac ymchwil y BTO yn berthnasol i Gymru.

Cysylltwch â ni

Mae swyddfa BTO Cymru wedi ei lleoli yn Adeilad Thoday, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2UW.

Cofrestrwch i dderbyn ein e-gylchlythyr

Yn ein cylchlythyr drwy e-bost rheolaidd, cewch wybod y diweddaraf am ein hymchwiliadau, ein harolygon, cyfleoedd hyfforddi, codi arian, newyddion a'n digwyddiadau.

Cofrestrwch



Related content