Sut i’n hysbysu am:
Adar efo modrwyau, tagiau neu farciau eraill
Rhowch wybod i ni os gwelwch aderyn byw neu farw efo modrwy neu dag arnynt. Mi fydd hyn yn cyfrannu data gwerthfawr at ein hymchwil, gan helpu ein hymchwilwyr i bennu tueddiadau poblogaeth adar a rhagweld sut y gallai poblogaethau ymdopi yn y dyfodol.
I anfon gwybodaeth am adar efo modrwy, gwnewch yn siŵr bod gennych chi nodyn o leoliad a lliw’r modrwyau neu’r tagiau’r aderyn. Bydd angen dyddiad a lleoliad yr aderyn arnoch hefyd, yn ogystal ag unrhyw fanylion am yr aderyn rydych yn ei adnabod (e.e.. rhywogaeth, rhyw, oedran – ond gallwch gyflwyno manylion modrwy heb hyn os nad ydych yn siŵr).
- Sut i roi manylion modrwy adar yn ein portal Euring
- Pam mae’n bwysig i’n hysbysu am adar a fodrwywyd?
Nythod a bylchau nythu
Os ydych chi wedi dod o hyd i nyth adar neu flwch nythu wedi’i feddiannu, peidiwch ag aflonyddu arno. Gallwch ddysgu sut i’w fonitro’n ddiogel trwy un o’n prosiectau monitro nythod.
Darganfyddiadau adar
Y ffordd orau o roi gwybod i ni am adar diddorol yw trwy ein prosiect BirdTrack. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, mae’n hawdd cyflwyno’ch cofnodion.
Plu anarferol
Rhowch wybod am unrhyw aderyn efo lliw(iau) anarferol: melaniaeth (plu tywyll), albiniaeth a lewciaeth (plu gwelw) neu xanthochromiaeth (plu melyn yn lle coch).
Adar sâl, wedi’u hanafu neu wedi marw
Rhowch wybod i ni am adar sâl neu afiach
Mae poblogaethau ein hadar yn wynebu achos sylweddol o ffliw adar. Mae reportio adar sâl yn ein helpu i olrhain lledaeniad ac effaith y firws. Gallwch wneud hyn trwy BirdTrack, os ydych chi'n gwybod y rhywogaeth.
Os gwelwch adar heintiedig yn eich gardd, gallwch hefyd roi gwybod i ni amdanynt trwy ein prosiect ‘Iechyd Bywyd Gwyllt yr Ardd’.
Bydd angen cyfrif BTO arnoch i gyfrannu at BirdTrack ac Iechyd Bywyd Gwyllt yr Ardd. Sefydlwch gyfrif am ddim nawr
Adar neu gywion sydd wedi’u hanafu allan o’r nyth
Tra bod BTO a’i wirfoddolwyr yn monitro adar, nid ydym yn cyflawni rôl filfeddygol dros fywyd gwyllt.
Os ydych wedi dod o hyd i aderyn anafedig, cysylltwch â’ch milfeddyg lleol, neu’r RSPCA (Cymru a Lloegr), SSPCA (Yr Alban) neu USPCA (Gogledd Iwerddon). Fel arall, dewch o hyd i ganolfan achub ar Help Wildlife.
Os ydych chi wedi dod o hyd i gyw yn fyw ond allan o’r nyth, yn gyntaf mae angen i chi benderfynu a yw’n gyw bach cyn ymyrryd: dilynwch ganllaw defnyddiol y RSPCA am ragor o wybodaeth.
Adar marw
Sylwch: mae arbenigwyr yn cynghori eich bod yn osgoi trin adar marw â chroen noeth.
Mae poblogaethau adar gwyllt ar hyn o bryd yn wynebu achos sylweddol o ffliw adar. Mae rhoi gwybod am adar marw yn ein helpu i olrhain lledaeniad ac effaith y firws.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, reportiwch adar gwyllt marw i Defra ar gyfer profion posib.
Yng Ngogledd Iwerddon reportiwch adar gwyllt marw i DAERA ar gyfer profion posibl.
Ym mhob rhanbarth yn y DU, rhowch wybod am yr aderyn marw i BirdTrack, os ydych yn gwybod y rhywogaeth.
Adar ysglyfaethus marw
Mae adar ysglyfaethus marw a ddarganfyddwch i Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn cael eu gohirio am y tro oherwydd ffliw adar.