Cudyll Cymru: adeiladu ar sylfaen cryf

Cudyll Cymru: adeiladu ar sylfaen cryf

Mae’r Uwch Ecolegydd Ymchwil Callum Macgregor yn edrych yn ôl ar ddechrau llwyddiannus Cudyll Cymru a’r camau nesaf i ddod.

This article is available in English in BTO News, Summer 2026.


Pan gyhoeddwyd Cudyll Cymru – ein menter monitro adar ysglyfaethus Cymru – i’r cyhoedd ym mis Hydref 2024 (BTO News 354), gwnaethom hynny heb wir syniad y lefel o gefnogaeth byddwn yn cael. Felly, cawsom ein syfrdanu gan y poblogrwydd cychwynnol, efo dros 800 o bobl yn cofrestru. Eto i gyd, gofynnwn y cwestiwn: faint o rheini fyddai’n cymryd rhan wedi i’r tymor arolygu cychwyn?

Yn fuan iawn y cawsom ein hateb! Yn ystod 2025, cymerodd tua 300 o wirfoddolwyr ran yn Cudyll Cymru. Gyda’i gilydd, monitrodd y gymuned wych hon 403 o Ardaloedd Arolwg, gan ddarparu 8,742 o gofnodion o gyfrifiadau ‘vantage point’! Roedd gennym Ardaloedd Arolwg ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys llawer o rannau blaenoriaeth uchel y wlad. Serch hynny, roedd yna rai bylchau amlwg yr ydym yn anelu at eu llenwi yn y blynyddoedd i ddod.

Y Bwncath oedd y rhywogaeth fwyaf eang o bell ffordd, gyda’r Cudyll Coch a’r Gwalch Glas ar ben arall y sbectrwm. Roedd Cudyllod Cochion yn fwyaf niferus yng Ngogledd Cymru, a Barcutiaid Cochion yn eu hardaloedd traddodiadol yng Nghanolbarth Cymru. Yn syndod i ni, roedd y Gwalch Glas yn amlwg yn llai niferus yng Ngogledd-orllewin Cymru na rhanbarthau eraill. Bydd yn ddiddorol gweld a yw’r patrymau hyn yn parhau wrth i ni ychwanegu mwy o ddata!


Dulliau arolygu Cudyll Cymru

Mae Cudyll Cymru yn cynnig hierarchaeth o ddulliau arolygu, wedi’u cynllunio i helpu ein gwirfoddolwyr i wella ansawdd eu data wrth iddynt ddod yn fwy profiadol a hyderus. Mae Cyfrifiadau ‘Vantage Point’ yn golygu’n syml cyfrif nifer yr adar ysglyfaethus o bob rhywogaeth y gallwch eu gweld o fan gwylio (unrhyw le â golygfa!) dros gyfnod o ddwy awr neu fwy.

Wrth gyfrif, efallai y byddwch yn dechrau sylwi ar ymddygiadau sy’n dangos tystiolaeth o baru, ble mae eu tiriogaethau, ac efallai hyd yn oed lleoliadau bras eu nythod. Yna gallwch amcangyfrif nifer y parau bridio o bob rhywogaeth sy’n bresennol o fewn yr Ardal Arolwg — sef Cyfrif ‘Breeding Pair’.

Y cam olaf yw Cofnodi Nythod, gan gasglu gwybodaeth am nifer yr wyau, cywion, ac yn y pen draw’r adar ifanc sydd wedi hedfan o’r nyth.
 


Ariannwyd y gwaith cychwynnol ar Gudyll Cymru gan grant dwy flynedd gan Raglen Rhwydweithiau Natur (cynllun a gyflwynir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru). Daeth hyn i ben ddiwedd mis Chwefror 2026. Yn ffodus, gydag ail dymor arolygu’r prosiect bellach ar y gweill, rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cyllid pellach gan Raglen Rhwydweithiau Natur, a fydd bellach yn cefnogi Cudyll Cymru tan 2029. Mae hyn yn rhoi cyfle i’n ni i adeiladu ar y sylfaen cychwynnol y flwyddyn gyntaf.

Rhan allweddol ein strategaeth yw cefnogi ein gwirfoddolwyr i wella sgiliau a’u profiad. Rydym eisoes wedi lansio ‘Survey Surgeries’ – cyfarfodydd ar-lein un-i-un hanner awr y gellir eu harchebu gyda’n Cydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus Cymru, Charlotte Griffiths. Rydym yn bwriadu gwneud y gefnogaeth yma’n llawer mwy hygyrch – ac wedi’i theilwra’n well – drwy greu rhwydwaith o gynrychiolwyr gwirfoddol. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr rhanbarthol, a fydd â rôl debyg i swyddogaethau rhanbarthol presennol mewn cynlluniau eraill y BTO, ond hefyd cynrychiolwyr rhywogaethau a chymunedau sy’n gweithredu ar lefel genedlaethol. Bydd cynrychiolwyr rhywogaethau yn medru rhannu gwybodaeth am rywogaethau, tra bydd cynrychiolwyr cymunedol yn ein helpu i gyfathrebu’n well â grwpiau sydd yn hanesyddol wedi’u tangynrychioli ymhlith gwirfoddolwyr y BTO (meddyliwch am Gynrychiolwyr Ieuenctid y BTO, ond ar gyfer ystod ehangach o grwpiau demograffig!) Rydym hefyd yn bwriadu cynnal gweithdai i nodi rhwystrau i gyfranogi yn Gudyll Cymru, a mynd ati i ddelio efo’r sialensiau hyn.


Phil Pickin / BTO
Phil Pickin / BTO
Charlotte Griffiths (chwith) o BTO Cymru yn cefnogi gwirfoddolwr Cudyll Cymru ar ddechrau gwanwyn 2026.

Ymgorffori Cudyll Cymru

Phil Pickin / BTO
Gwirfoddolwyr Cudyll Cymru yn chwilio am Gigfrain ar ddechrau gwanwyn 2026. Phil Pickin / BTO

Yn ogystal â thyfu ein sylfaen wirfoddolwyr, byddwn hefyd yn ehangu cwmpas y prosiect. Dechreuon ni efo ffocws ar bedair rhywogaeth gyffredin o adar ysglyfaethus, ynghyd â’r Gigfran sy’n ecolegol yn debyg, ond erbyn hyn byddwn yn annog ein gwirfoddolwyr, lle bo’n briodol, i fonitro adar ysglyfaethus eraill yn eu Hardaloedd Arolwg.

Byddwn yn cynnig hyfforddiant i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn deall sut i adnabod ac arolygu pob rhywogaeth sy’n nythu, yn unol â deddfwriaeth Atodlen 1.

Uchafbwynt blwyddyn gyntaf Cudyll Cymru oedd Confensiwn Adar Ysglyfaethus Cymru gyntaf erioed yn Aberystwyth ar ddiwedd mis Ionawr 2026. Daeth dros 150 o gyfranogwyr ar y diwrnod (tua un o bob chwech ohonynt o dan 25 oed!) am ddiwrnod o weithdai, rhwydweithio, a sgyrsiau.

Roedd y pynciau’n cynnwys prosiect Ailgyflwyno Eryrod Cymru, gwaith i leihau trosedd erlid adar ysglyfaethus, a sawl safbwynt ar ba mor y mae adar ysglyfaethus i ymgysylltu pobl â natur.

Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd o dan un to oherwydd hoffter cyffredin dros adar ysglyfaethus. Dangosodd adborth fod llawer o’n cyfranogwyr yn teimlo’r un fath, gyda llawer o sylwadau am ba mor wych oedd gweld cymaint o bobl ifanc yn bresennol! 

Gyda chyllid bellach wedi’i gadarnhau ar gyfer y tair blynedd nesaf, rydym yn edrych ymlaen at wneud y dathliad hwn o’n hadar ysglyfaethus Cymreig yn ddigwyddiad blynyddol yn y calendr.
 


Cymerwch ran

Mae dal amser i gofrestru a dechrau cyfrif adar ysglyfaethus yn 2026! 

Mae’r haf yn amser gwych i ddod i nabod Ardal Arolwg, gan y gall adar ysglyfaethus fod yn fwy gweladwy’r adeg hon o’r flwyddyn wrth iddynt geisio cadw i fyny â gofynion cywion newydd llwglyd: www.bto.org/cudyll-cymru

Darllenwch am ein Confensiwn Adar Ysglyfaethus Cymru gyntaf yn: www.bto.org/raptor-convention

Phil Pickin / BTO
Phil Pickin / BTO
Cynrychiolydd Ieuenctid y BTO, Liliana Tarrent Sneddon, yn siarad yng Nghonfensiwn Adar Ysglyfaethus Cymru gyntaf.